For Adults
Architectural Glass DesignWorkshop
23 February - 23 February 2019
10.30am – 3.30pm | £30 (Discount available for Friends of Mission Gallery and previous workshop attendees) | Suitable for ages 16+
Cath Brown is a Lecturer on the BA(Hons) Glass courses and BA(Hons) Surface Pattern (Makers pathway) at Swansea College of Art, UWTSD.
She is interested in creative, arts education for all and strives to protect traditional skills in making, whilst developing contemporary and technological processes.
Teaching within both Further and Higher Education over the past 18 years has given Cath the experience to deliver practical skills in a wide range of processes within the field of Ceramics and Glass as well as the core skills of drawing and visual studies. Cath enjoys helping students to develop concepts and ideas through the making process and encourages the use of both 2D and 3D work and the balance of hand generated craft skills along with digital and mechanical technology.
Join Cath for a day of exploring glass as a material in architecture, learn about decorative processes - seeing light and space through the medium of glass and produce a glass panel with decorative techniques learnt on the day. All materials are provided. Limited spaces to ensure adequate tuition.
Full support will be provided by Cath Brown.
LOCATION: ALEX Building, Swansea College of Art UWTSD, Alexandra Road, Swansea SA1 5DU
For further information please contact Kat Ridgway, Education and Participation Assistant, on 01792 652016 or email education@missiongallery.co.uk Materials are provided, limited places, booking is essential. Please bring a packed lunch and inform us of any access requirements, allergies or medical conditions.
Cynllunio Gwydr Pensaernïol | Gweithdy i Oedolion
23 Chwefror 2019
10.30yb – 3.30yp | £30 (Gostyngiad ar gael i Gyfeillion Oriel Mission a mynychwyr gweithdai blaenorol) | Yn addas i 16+ oed
Darlithydd yw Cath Brown ar y cyrsiau BA (Anrhydedd) mewn Gwydr a BA (Anrhydedd) mewn Patrymau Arwynebedd (Llwybr y Gwneuthurwyr) yng Ngholeg Celf Abertawe, PCDDS.
Mae’n ymddiddori mewn addysg i bawb yn y celfyddydau creadigol gan geisio diogelu sgiliau traddodiadol mewn gwneud, wrth ddatblygu prosesau cyfoes a thechnolegol.
Mae addysgu mewn Addysg Bellach ac Uwch dros yr 18 mlynedd diwethaf wedi rhoi’r profiad i Cath i gyflwyno sgiliau ymarferol mewn amrywiaeth eang o brosesau ym maes Cerameg a Gwydr yn ogystal â sgiliau craidd arlunio ac astudiaethau gweledol. Mae Cath yn mwynhau helpu myfyrwyr i ddatblygu cysyniadau a syniadau drwy’r proses o wneud gan eu hannog i ddefnyddio gwaith 2D a 3D ynghyd â chydbwysedd rhwng sgiliau crefft wedi’i gwneud â llaw a thechnoleg ddigidol a mecanyddol.
Ymunwch â Cath am ddiwrnod o edrych ar wydr fel deunydd mewn pensaernïaeth gan ddysgu am brosesau addurno, gweld golau a gofod drwy gyfrwng gwydr a chynhyrchu panel gwydr gyda thechnegau addurno a ddysgir ar y diwrnod. Darperir yr holl ddeunyddiau. Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig i sicrhau tiwtora digonol.
Darperir cefnogaeth gyflawn gan Cath Brown.
LLEOLIAD: Adeilad ALEX, Coleg Celf Abertawe PCDDS, Ffordd Alecsandra, Abertawe SA1 5DU
______________________________________________________________________
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Kat Ridgway, Cynorthwyydd Addysg a Chyfranogi, ar 01792 652016 neu e-bostio email education@missiongallery.co.uk Darperir deunyddiau, nifer cyfyngedig o leoedd, rhaid archebu ymlaen llaw. Dewch â phecyn cinio a rhoi gwybod i ni am unrhyw anghenion o ran mynediad, alergeddau neu anhwylderau meddygol.